Extra context verses: 0
john 1:1 (Table III)
Eusebian Number
1.1 | 3.14 | 4.1 | 4.3 | 4.5 |
---|---|---|---|---|
Matt.1.1-16 | Luke.3.23-38 | John.1.1-5 | John.1.9-10 | John.1.14 |
1Rhestr achau Iesu y Meseia, oedd yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd, ac Abraham hefyd: 2Abraham oedd tad Isaac,
|
23Roedd Iesu tua tri deg oed pan ddechreuodd deithio o gwmpas yn dysgu'r bobl a iacháu. Roedd pawb yn cymryd ei fod yn fab i Joseff, oedd yn fab i Eli,
24mab Mathat, mab Lefi, mab Melci, mab Janai, mab Joseff,
25mab Matathïas, mab Amos, mab Nahum, mab Esli, mab Nagai,
26mab Maath, mab Matathïas, mab Semein, mab Josech, mab Joda,
27mab Joanan, mab Rhesa, mab Sorobabel, mab Shealtiel, mab Neri,
28mab Melci, mab Adi, mab Cosam, mab Elmadam, mab Er,
29mab Josua, mab Elieser, mab Jorim, mab Mathat, mab Lefi,
30mab Simeon, mab Jwda, mab Joseff, mab Jonam, mab Eliacim,
31mab Melea, mab Menna, mab Matatha, mab Nathan, mab Dafydd,
32mab Jesse, mab Obed, mab Boas, mab Salmon, mab Nahson,
33mab Aminadab, mab Admin, mab Ram, mab Hesron, mab Peres, mab Jwda,
34mab Jacob, mab Isaac, mab Abraham, mab Tera, mab Nachor,
35mab Serwg, mab Reu, mab Peleg, mab Eber, mab Sela,
36mab Cenan, mab Arffacsad, mab Shem, mab Noa, mab Lamech,
37mab Methwsela, mab Enoch, mab Jared, mab Mahalal-el, mab Cenan,
38mab Enosh, mab Seth, mab Adda, mab Duw. |
1Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. 2Roedd gyda Duw o'r dechrau cyntaf un. 3Drwyddo y crëwyd popeth sy'n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e. 4Ynddo fe roedd bywyd, a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl. 5Mae'r golau'n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd. |
9Roedd y golau go iawn, sy'n rhoi golau i bawb, ar fin dod i'r byd. 10Roedd y Gair yn y byd, ac er mai fe greodd y byd, wnaeth pobl y byd mo'i nabod. |
14Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni. Gwelon ni ei ysblander dwyfol— ei ysblander fel Mab unigryw wedi dod oddi wrth y Tad yn llawn haelioni a gwirionedd. |